Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-30-12 papur 1

 

PAPUR AR GYFER PWYLLGOR YR AMGYLCHEDD A CHYNALIADWYEDD CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU 28 TACHWEDD 2012: YMCHWILIAD I’R POLISI MOROL

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

 

 

CYFLWYNIAD

1. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weledigaeth y DU gyfan o foroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol, ac amcanion morol lefel uchel ar gyfer y DU gyfan i wireddu’r weledigaeth hon. Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu rhaglen forol ar gyfer y pedwar maes gwaith cyd-ddibynnol allweddol, sef: cynllunio morol, rhoi Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol ar waith, cadwraeth natur morol a thrwyddedau morol. Mae’r rhaglen forol yn cael ei llunio i weithio mewn ffordd integredig gyda meysydd polisi ar draws Llywodraeth Cymru, yn arbennig pysgodfeydd, ynni a thwristiaeth, i gefnogi’i natur trawsbynciol.  

 

2. Rydyn ni’n bwriadu cynnwys pob agwedd ar ein rhaglen forol mewn dull rheoli ar sail ecosystem, gan adlewyrchu gofynion Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol, ac fel yr amlinellir yn Natganiad Polisi Morol y DU gyfan sy’n rhoi’r fframwaith polisi strategol ar gyfer cynllunio morol. Bydd hyn yn ategu dull holistaidd Llywodraeth Cymru yn yr agenda Cynnal Cymru Fyw, gan gynnwys cynllunio adnoddau naturiol.

 

3.   Rydyn ni wrthi’n adolygu’r trefniadau i gefnogi’r rhaglen forol, gan gynnwys adnoddau. Un o themâu allweddol yr adolygiad yw cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn enwedig cymunedau arfordirol lleol a rôl fforymau arfordirol, gan adlewyrchu’r dull o reoli ar sail yr ecosystem. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r corff newydd a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad, Cyfoeth Naturiol Cymru, i sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chefnogi’n effeithiol. Byddwn hefyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a’i hasiantaethau, yn arbennig y Sefydliad Rheoli Morol, a llywodraethau eraill i sicrhau bod ein polisïau morol perthnasol yn cael eu datblygu a’u rhoi ar waith mewn ffordd integredig. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ffurfioli’r trefniadau gwaith drwy goncordatiau neu femoranda cyd-ddealltwriaeth yn ôl y gofyn.

 

CYNLLUNIO MOROL

 

4.  O dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cynllunio morol ar gyfer Welsh dyfroedd mewndirol Cymru (hyd at 12 milltir forol) a dyfroedd môr mawr Cymru (o 12 milltir forol i’r llinell ganol h.y. y canolbwynt rhwng arfordir Cymru ac arfordiroedd gwledydd eraill hyd at 200 milltir forol). 

 

5.  Diben cynllunio morol o dan y Ddeddf yw helpu i sicrhau datblygu cynaliadwy. Ein nod yw datblygu cynlluniau morol cenedlaethol cychwynnol ar gyfer dyfroedd mewndirol a môr mawr Cymru erbyn 2015.

 

6.   Gyda’i gilydd, mae’n hardaloedd morol ac arfordirol yn asedau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol pwysig. Mae’n hamgylchedd morol yn cefnogi rhwydwaith cyfathrebu a thrafnidiaeth pwysig ac mae’n porthladdoedd yn hollbwysig ar gyfer masnach ryngwladol; mae’n dyfroedd yn cefnogi gweithgarwch pysgota gwerthfawr, datblygiadau dyframaeth a gwaith echdynnu agregau sy’n bwydo prosiectau adeiladu lleol. Mae’n hardal forol yn cefnogi datblygiad gweithfeydd ynni i helpu i gyflawni’n strategaeth newid hinsawdd, a’n polisïau ynni carbon isel a swyddi gwyrdd. Hefyd mae’n hardal forol yn cynnig cyfleoedd twristiaeth a hamdden sy’n gwneud cyfraniad mawr i economi Cymru. Mae tua 36% o’n dyfroedd mewndirol a 75 % o’n harfordir wedi’u pennu oherwydd eu hansawdd amgylcheddol, ac mae eu harddwch eithriadol a’u treftadaeth yn cyfrannu at ddiwylliant a lles.

 

7.  Fodd bynnag, mae’r asedau allweddol hyn o dan bwysau. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau datblygu cynaliadwy a diogelu nodweddion amgylcheddol a threftadaeth gwerthfawr a rheoli ecosystemau, ac ymaddasu i’r effeithiau a ragwelir o’r newid yn yr hinsawdd. Felly mae angen bod cynllunio morol yn sicrhau cynifer â phosibl o fanteision i randdeiliaid i gefnogi atebion creadigol, cydleoli a chyd-ddefnyddio lle bo’n bosibl.

 

8.  Rydyn ni wedi sefydlu grŵp trawsbynciol Llywodraeth Cymru ar gynllunio morol, sy’n cynnwys swyddogion o’r meysydd polisi allweddol, gan gynnwys pysgodfeydd, cadwraeth morol ac ynni.   

 

9.   Mae’r gwaith paratoadol hyd yn hyn yn cynnwys comisiynu asesiad effaith ar gyfer cynllunio morol yng Nghymru (nid oedd yr asesiad effaith ar gyfer Datganiad Polisi Morol y DU gyfan yn edrych ar wledydd penodol), astudiaeth o gymunedau arfordirol ac offeryn cynllunio GIS i gefnogi porthol cynllunio morol ar y we i Gymru.

 

10.  Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiect peilot cydleoli a chyd-ddefnyddio morol, ymchwiliad i’r math o ddyframaeth a allai ddigwydd mewn ffermydd gwynt, a phrosiect Cymru gyfan i fapio twristiaeth a hamdden arfordirol a morol (wedi’i alluogi drwy GIS hefyd).

 

11.  Byddwn hefyd yn edrych ar y dystiolaeth sy’n codi o brosiectau ymchwil eraill yn y DU, yn arbennig ar gydleoli a chyd-ddefnyddio yn gyffredinol, oherwydd dylai hyn fod yn berthnasol o safbwynt generig. 

 

12.  Er mwyn adlewyrchu’i natur trawsbynciol, bydd gofyn i’r cabinet gymeradwyo’r dull cynllunio morol, gan ystyried y gwaith paratoadol hwn. Yna byddwn yn dechrau’r broses cynllunio morol statudol, lle bydd cyfraniad ac ymgysylltu â rhanddeilaid yn rhan hollbwysig ac annatod. 

 

 

 

 

 

 

CYFARWYDDEB FFRAMWAITH Y STRATEGAETH FOROL

 

13. Prif ddiben Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol, a drowyd yn gyfraith ddomestig drwy Reoliadau’r Strategaeth Forol 2010, yw sicrhau Statws Amgylcheddol Da ar gyfer moroedd Ewrop erbyn 2020 drwy ddull rheoli ar sail yr ecosystem. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys y gyfarwyddeb ar gyfer dyfroedd mewndirol Cymru.

 

14.  Yn dilyn cydymgynghoriad yn y DU, bydd asesiad cychwynnol o gyflwr moroedd y DU a thargedau a dangosyddion ar gyfer cyflawni Statws Amgylcheddol Da yn cael ei gyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd yn fuan.

 

15.  Fel awdurdod cymwys y gyfarwyddeb ar gyfer dyfroedd mewndirol Cymru, rydyn ni’n ymrwymo i chwarae’n rhan i helpu i sicrhau Statws Amgylcheddol Da. Bydd gweithredu’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin newydd a pharu i weithredu Cyfarwyddebau Ewropeaidd eraill, fel y Cyfarwyddebau Dŵr, Pysgod Cregyn, Cynefinoedd ac Adar yn chwarae rhan fawr o ran sicrhau Statws Amgylcheddol Da. Nid yw’n amlwg eto pa gamau penodol i Gymru y bydd angen eu cymryd i helpu i sicrhau Statws Amgylcheddol Da gan nad yw’r raddfa ofodol ar gyfer asesu wedi’i phennu. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd y ffordd y byddwn ni (a gweddill y DU yn defnyddio’n pwerau i ddatblygu a gweithredu’n polisïau cynllunio morol a chadwraeth natur morol, gan gynnwys ardaloedd morol gwarchodedig, yn allweddol bwysig waeth beth fydd y raddfa ofodol.

 

CYFARWYDDEB Y FFRAMWAITH DŴR

 

16.  Fel yr awdurdod cymwys ar gyfer rhoi Cyfarwyddeb y Fframwaith Dŵr ar waith yng Nghymru a Lloegr, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am lunio Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn unol ag egwyddorion a chamau’r broses gynllunio fel y’u hamlinellir gan Lywodraeth Cymru a Defra.

 

17.  Cymeradwyodd y Gweinidog (ac Ysgrifennydd Gwladol y DU ar gyfer cynlluniau trawsffiniol) y Cynlluniau Rheoli Basn Afon cyntaf ym mis Rhagfyr 2009. Yng Nghymru, dangosodd y Cynlluniau Rheoli Basn Afon cyntaf mai dim ond 33% o’n cyrff dŵr oedd yn dda yn 2009, ac y byddai hyn yn codi i 41% erbyn 2015. Ein huchelgais yw cyrraedd 50% a gweithio i gyflawni amcanion ar gyfer ardaloedd gwarchodedig fel safleoedd Natura 2000 a dyfroedd ymdrochi. 

 

18.  Mae’r Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn dilyn cylch 6 blynedd. Caiff cynlluniau pellach eu cyhoeddi yn 2015 a 2021.

 

Y GYFARWYDDEB DYFROEDD YMDROCHI

 

19.  Mae’r Gyfarwyddeb wedi cael ei diwygio i osod safonau microbiolegol sy’n llymach na’r rhai a bennwyd drwy Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi 1976, a bydd angen eu bodloni erbyn 2015. Ar sail samplau bacteriolegol dros bedair blynedd (yn hytrach na blwyddyn fel sy’n ofynnol yn y Gyfarwyddeb bresennol), caiff dyfroedd eu cyfrif yn rhagorol, yn dda, yn ddigonol neu’n wael.

 

20.  Rydyn ni mewn cyfnod pontio ar hyn o bryd rhwng y ddwy Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi. Mae gofynion y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi bresennol yn newid yn raddol i adlewyrchu gofynion y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi ddiwygiedig rhwng nawr a 2015.

 

Y CYFARWYDDEBAU CYNEFINOEDD AC ADAR

 

21.  Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i nodau cyffredinol y Cyfarwyddebau Cynefinoedd ac Adar Gwyllt, sef amddiffyn ecosystemau morol drwy ddiogelu’r rhywogaethau a’r cynefinoedd pwysig sy’n rhan o’r ecosystemau hynny, a gweithio tuag at sicrhau’u statws cadwraeth ffafriol. Rydyn ni’n gwneud hyn yn bennaf drwy drefnau rheoleiddio yn bennaf a thrwy bennu ardaloedd cadwraeth arbennig ac ardaloedd gwarchodaeth arbennig (ar gyfer adar) drwy’r Cyfarwyddebau.

 

Adroddiadau Erthygl 17

22.  Bob chwe blynedd, mae’n ofynnol yn ôl Erthygl 17 y Gyfarwyddeb i Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd adrodd ar weithredu’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Mae’r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur yn cydlynu adroddiad y DU gyda chyfraniad gan asiantaethau natur y gwahanol wledydd, gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Canolbwyntiodd y cylch adrodd cyntaf ar weithredu’r Gyfarwyddeb a’r ail ar asesu cyflwr safleoedd gwarchodedig. Disgwylir y trydydd adroddiad yn 2013. Diben y trydydd adroddiad yw asesu statws cadwraeth yr holl gynefinoedd a rhywogaethau yn y Gyfarwyddeb, gyda gwybodaeth ar yr amgylchedd ehangach yn hytrach na dim ond safleoedd gwarchodedig. 

 

23.  Bydd Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, yn defnyddio canlyniad yr ail adroddiad Erthygl 17 i adolygu a blaenoriaethu’r camau y mae angen i ni eu cymryd yng Nghymru ynghylch statws cadwraeth cynefinoedd a rhywogaethau morol Ewropeaidd, gan gynnwys y trefniadau rheoli ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig, a’u hintegreiddio gyda strategaethau ehangach fel cynllunio morol a Cynnal Cymru Fyw.   

 

ARDALOEDD MOROL GWARCHODEDIG

24.  Ardaloedd morol gwarchodedig yw un o’r ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru helpu i amddiffyn a gwella ecosystemau morol, ac mae angen eu hystyried yng nghyd-destun y rhaglen forol ehangach ochr yn ochr â chynllunio morol, Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol a Cynnal Cymru Fyw. Yng Nghymru mae tua 75% o’r arfordir a 36% o’n dyfroedd mewndirol yn cael eu cyfrif yn safleoedd o’r fath.

 

25.  Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â gweinyddiaethau eraill y DU, yn ymrwymo i sefydlu rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig fel rhan o ddull eang o warchodaeth natur. Bydd y rhwydwaith yn ffordd allweddol o gyfrannu at gyflawni Statws Amgylcheddol Da o dan Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol.

 

26.  Bydd cyfraniad Cymru at y rhwydwaith ehangach yn cynnwys Safleoedd Morol Ewropeaidd (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)), Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig rhynglanwol, safleoedd Ramsar rhynglanwol, y Warchodfa Natur Forol ar Sgomer, a Pharthau Cadwraeth Morol.  

 

27.  Rydyn ni’n gweithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU i ystyried sut bydd cyfraniadau pawb yn ffurfio’r rhwydwaith ehangach, gan gynnwys parthau cadwraeth morol.

 

Parthau Cadwraeth Morol

 

28.  Rhoddodd Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 y pŵer i Weinidogion Cymru bennu math newydd o ardal gwarchodedig forol yn nyfroedd mewndirol Cymru, sef parth cadwraeth morol, er mwyn cyfrannu at rwydwaith ehangach o ardaloedd gwarchodedig morol.

 

29.  Cynhaliwyd ymgynghoriad cam cyntaf yn gynharach eleni ar opsiynau i bennu parthau cadwraeth morol yn nyfroedd mewndirol Cymru, ar sail eu bod yn warchodedig iawn. Cafwyd tua 7,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad, gydag amrywiaeth o safbwyntiau cryf a gwahanol am y ffordd y dylid defnyddio’r pŵer pennu newydd a’r goblygiadau o’u gwneud yn warchodedig iawn.

 

30.  Ar 5 Tachwedd cyhoeddais gyfnod ychwanegol o waith i ystyried ac ymchwilio’n llawn i’r holl wybodaeth a ddaeth i law er mwyn dylanwadu ar sut byddwn yn symud ymlaen gyda pharthau cadwraeth morol yng Nghymru. Mae’r gwaith ychwanegol hwn yn cyd-fynd â’n cynllun graddol i wrando ar adborth, ymateb iddo a cheisio safbwyntiau pellach gan bob grŵp buddiant, cyn penderfynu ar y camau nesaf. Mae’n cefnogi’n hymrwymiad i weithio ar draws meysydd polisi mewn ffordd gydlynus. Bydd y gwaith ychwanegol yn cael ei lywio gan dîm trawsbynciol newydd yn Llywodraeth Cymru ac yn cael ei ategu gan grŵp ffocws rhanddeiliaid newydd.

 

31.  Bydd yr ystyriaethau allweddol yn cynnwys yr ymatebion i’r ymgynghoriad, datblygiadau yng ngweinyddiaethau eraill y DU, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy, cymunedau a swyddi, yn ogystal â bioamrywiaeth. Bydd y gwaith yn adlewyrchu’r dull ecosystem y mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei fabwysiadu, a bydd yn anelu at amserlen bennu sy’n cyd-fynd â chynllunio morol a’r adolygiad o drefniadau rheoli ar gyfer ardaloedd gwarchodedig morol yn gyffredinol er mwyn integreiddio i’r eithaf.

 

TRWYDDEDAU MOROL

 

32.  Gweinidogion yw’r awdurdod trwyddedau morol ar hyn o bryd ar gyfer dyfroedd mewndirol Cymru o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Yn dilyn ymgynghoriad, byddwn yn dirprwyo’r cyfrifoldeb am drwyddedau morol (yn ogystal â’r rhan fwyaf o drwyddedau bywyd gwyllt) i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn symleiddio’r trefniadau rheoleiddio amgylcheddol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am y polisi trwyddedau a bydd yn elfen allweddol o’n rhaglen forol.

 

33.  Mae parhad busnes yn fater hollbwysig, ac mae’r trefniadau rheoli penodol i brosiect sydd wedi’u sefydlu i ddirprwyo cyfrifoldebau trwyddedau yn mynd i’r afael â hyn.